Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 21 Ionawr 2022
Amser:
09.30 -
12.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12720
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Gareth Davies AS (yn lle Peter Fox AS) |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd Gareth Davies AS ar ei ran.
2 Papurau i'w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Tystiolaeth ysgrifenedig gan Cyswllt Amgylchedd Cymru - Ionawr 2022
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Llywydd: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 - 18 Ionawr 2022
2.3 PTN 3 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Gwybodaeth Ychwanegol - Cynghrair Twristiaeth Cymru - Ionwar 2022
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 8
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r eitemau a ganlyn i’r Pwyllgor:
· nodyn ar y grŵp olynol a fydd yn disodli Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb (BAGE);
· nodyn ar gyfalaf trafodion ariannol; a
· nodyn ar gymorth busnes mewn perthynas â seilwaith digidol a datblygu sgiliau digidol, yn enwedig ar gyfer busnesau bach.
4 Trafod Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 28 Ionawr 2022.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Ceisiadau o ran Cyllideb Atodol 2021-22 gan Gyrff a Ariennir yn Uniongyrchol
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ceisiadau o ran cyllideb atodol gan gyrff a ariennir yn uniongyrchol.
8 Trafod y flaenraglen waith
8.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.
9 Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau
9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.